Joanna Yeates
Mae Iseldirwr wedi cyfaddef iddo ladd y pensaer tirwedd Joanna Yeates.

Mewn cyswllt fideo â’r Old Bailey yn Llundain y bore yma, fe wnaeth Vincent Tabak, a oedd yn byw y drws nesaf i Joanna Yeates yn Clifton, Bryste, bledio’n euog o ddynladdiad, ond mae’n gwadu iddo ei llofruddio.

Fe ddiflannodd Joanna Yeates, a oedd yn 25 oed, ar Ragfyr 17 ar ôl bod allan am ddiodydd Nadolig gyda chydweithwyr.

Cafwyd hyd i’w chorff wedi rhewi gerllaw lôn wledig yn Failand, gogledd Gwlad yr Haf, ddiwrnod Nadolig.

Er ei gyfaddefiad, fe fydd Vincent Tabak, sy’n 33 oed, yn sefyll prawf ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Phillip Jones: “Mae’r ffaith fod Vincent Tabak wedi pledio’n ddi-euog o lofruddio Joanna Yeates yn yr Old Bailey heddiw’n golygu y bydd treial llawn maes o law.

“Mae Tabak wedi cyflwyno ple o ddynladdiad, fodd bynnag nid yw hyd wedi cael ei dderbyn gan y Goron. Hyd nes y bydd y treial yn digwydd byddai’n amhriodol inni wneud sylw pellach.”