Alex Salmond, arweinydd yr SNP
Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu buddugoliaeth i’r SNP yn etholiad senedd yr Alban heddiw, gan alluogi i Alex Salmond barhau fel Prif Weinidog mewn llywodraeth leiafrifol.

Fe orffennodd Alex Salmond ei ymgyrch ar nodyn herfeiddiol neithiwr – trwy hedfan i etholaeth yr arweinydd Llafur Iain Gray yn East Lothian.

Byddai trechu ei brif wrthwynebydd yng nghadarnle Llafur yn fuddugoliaeth fawr i Alex Salmond a’r SNP.

Apeliodd ar i gefnogwyr Llafur bleidleisio i’r SNP am y tro cyntaf erioed:

“Dw i’n gofyn iddyn nhw wneud yr hyn sydd orau i’r Alban,” meddai.

“Fydd llywodraeth SNP sydd wedi cael ei hail-ethol ddim yn eu gadael nhw i lawr. Os yw pobl yn rhoi eu hymddiriedaeth ynon ni, fe fyddwn ni’n ad-dalu’r ymddiriedaeth a bob amser yn cymryd ein harwain tan bobl yr Alban.”

Arolygon barn

Hyd at fis yn ôl, roedd Llafur yn gyson ar y blaen i’r SNP yn y poliau, ond newidiodd hyn yn ystod yr ymgyrch, ac mae poblogrwydd Alex Salmond wedi bod yn amlwg.

Ymysg ei gefnogwyr amlwg yn yr etholiad mae papur newydd y Sun, ac ar bapur y bleidlais ranbarthol – mae’r drefn etholiadol yn ddigon tebyg i un etholiad y Cynulliad – mae’r SNP wedi ychwanegu’r geiriau ‘Alex Salmond as First Minister’ ar ôl logo’r blaid.

Er bod yr arolwg barn diweddaraf yn dangos y gefnogaeth i’r SNP wedi llithro rhywfaint mae’n dal i’w gosod nhw’n glir ar y blaen.

Mae’n rhoi’r SNP ar 42%, o gymharu â 35% i Lafur, 11% i’r Ceidwadwyr a 8% i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y bleidlais etholaethol. Mae’n gosod yr SNP ar y blaen o drwch blewyn yn y blewyn yn y bleidlais ranbarthol hefyd.

Mae dadansoddwyr etholiadol yn amcangyfrif y byddai hynny’n arwain at 54 o seddau i’r SNP – mwy nag sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd – o gymharu â 46 i Lafur.

Mae’r SNP wedi cynnal llywodraeth leiafrifol yn yr Alban ers 2007.