David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud y dylid osgoi “dadl danllyd” gyda Llywodraeth Pacistan dros guddio Osama bin Laden.

Dywedodd fod gan Bacistan “nifer o gwestiynau i’w hateb” ond ychwanegodd fod arweinwyr y wlad yn gwbl ymroddedig i fynd i’r afael â therfysgaeth yno.

“Mae yna nifer o gwestiynau sydd angen eu hateb. Ac fe ddylen ni fod yn chwyrn wrth ofyn y cwestiynau rheini,” meddai wrth Radio 5 Live.

“Ond fe ddylen ni ganolbwyntio ar beth ydyn ni’n ei wybod. Ac rydyn ni’n gwybod bod arweinyddiaeth Pacistan yn brwydro terfysgaeth, a bod y wlad wedi dioddef.

“Fe ddylen ni gydweithio â’r grymoedd ym Mhacistan sydd eisoes brwydro terfysgaeth a sicrhau fod democratiaeth yn cydio yn y wlad.

“Fe allen ni gael dadl danllyd gyda Phacistan ond dw i ddim yn credu y byddai hynny yn cyflawni unrhyw beth.”

Heddiw ymatebodd Arlywydd Pacistan, Asif Ali Zardari, i honiadau fod y wlad wedi mynd ati i guddio Osama bin Laden rhag yr Americaniaid.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Washington Post mynnodd nad oedd ganddo syniad fod arweinydd Al Qaida yn y wlad.

Dywedodd fod Pacistan yn rhan o’r rhyfel yn erbyn terfysgaeth ac wedi dioddef mwy nag unrhyw wlad arall.