Ed Miliband
Mae arweinydd y blaid Lafur Brydeinig, Ed Miliband, wedi annog pleidleiswyr i ddefnyddio’r etholiadau lleol ddydd Iau er mwyn beirniadu 12 mis cyntaf Llywodraeth San Steffan wrth y llyw.   

Fe ddywedodd arweinydd yr wrthblaid ei fod yn gyfle i bleidleiswyr anfon neges i Styrd Downing am gyfeiriad Prydain i’r dyfodol gan gredu bod yr etholiadau yn bwysig ar lefel genedlaethol. 

“Mae’r etholiadau’n gyfle pwysig i anfon neges am lywodraeth sydd heb yr archiad am nifer o’r pethau maen nhw’n eu gwneud,” meddai Ed Miliband. 

“Roedd pleidleiswyr yn yr etholiad olaf ddim wedi pleidleisio am newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol nad oedd ym maniffesto’r pleidiau.

“Doedden nhw ddim wedi pleidleisio am dreblu ffioedd dysgu na’r toriadau- mae’r toriadau yn rhy bell a rhy gyflym ac yn wael i’r economi.”

Mae Ed Miliband yn credu bod yr etholiadau wythnos nesaf yn mynd i ddiffinio cyfeiriad gwledydd Prydain i’r dyfodol.