Osama bin Laden - ysbrydoliaeth?
Mae un o gefnogwyr amlyca’ Osama bin Laden yng ngwledydd Prydain, wedi rhybuddio o ymosodiad terfysgol arall tebyg i un 7/7 yn dilyn ei farwolaeth neithiwr.
Fe fydd mwy o “ymladd dwys” yn Irac ac Affganistan o fewn dyddiau, meddai’r pregethwr radical Anjem Choudary, cyn-arweinydd y gymdeithas al-Muhajiroun.
“Dw i’n meddwl fod Prydain yn fwy tebygol o wynebu 7/7 arall nawr,” meddai. “Fe fydd marw Osama bin Laden yn annog mwy o bobol i gymryd rhan yn yr ymladd. Fe ddaeth yn arweinydd pwysig, ac yn rhywun sydd wedi aberthu llawer dros y gymuned Fwslimaidd.
“Fe roddodd ei gyfoeth, ac fe aberthodd ei fywyd er mwyn eraill.”
Yn hytrach na digalonni ei ddilynwyr, fe fydd ei farwolaeth yn ysbrydoli cefnogwyr, meddai wedyn.