Andrew Marr
Fe ddychwelodd y cyflwynydd teledu Andrew Marr i’r sgrin heddiw, yn dilyn cyhoeddi ei fod ef ei hun wedi llwyddo i rwystro’r wasg a’r cyfryngau rhag cyhoeddi iddo ef gael perthynas y tu allan i briodas.

Yn ôl Mr Marr, fe fyddai’n rhaid i’r Senedd yn San Steffan edrych ar y mater o arch-waharddiadau. Ond wnaeth hynny ddim rhwystro ei westeion ar yr Andrew Marr Show heddiw rhag tynnu arno yn ddidrugaredd.

Fe lwyddodd Mr Marr, cyn-olygydd gwleidyddol y BBC, i ennill arch-waharddiad yn yr Uchel Lys yn 2008, er mwyn cadw’r wasg a’r cyfryngau yn dawel. Roedd wedi cael affêr gyda gohebydd papur newydd cenedlaethol.

Wrth adolygu’r papurau ar yr Andrew Marr Show, fe nododd yr actores Maureen Lipman fod yr holl sylw sydd wedi ei roi i’r briodas frenhinol yn gyfle gwych i guddio stori am arch-waharddiad. “It’s a great week to hide an injunction story, say one wanted to,” meddai.