Deirgwaith yn unig dros y ganrif ddiwethaf y cafwyd mis Ebrill mwy heulog ym Mhrydain nag yr ydym newydd ei fwynhau yn ôl cofnodion y Swyddfa Dywydd.

Y mis yma hefyd oedd y cynhesaf yng nghanolbarth Lloegr ers i gofnodion gychwyn dros 350 mlynedd yn ôl.

Er i ardaloedd fel Eryri, ucheldiroedd yr Alban ac Ardal y Llynnoedd gael glaw trwm yn ystod wythnos gynta’r mis, fe fu pob rhan o Brydain yn anghyffredin o sych ers hynny.

Roedd y tymheredd isaf cyfartalog o leiaf 3.5 gradd C yn uwch na’r cyfartaledd hirdymor ym mhobman, a’r tymheredd uchaf a gafodd ei gofnodi yn ystod y mis oedd 27.8 gradd C (82 gradd F) yn Wisley yn Surrey ddydd San Siôr.

Hwn oedd y tymheredd uchaf i gael ei gofnodi ym mis Ebrill yn unrhyw ran o Brydain ers 1949.