Yng nghanol dathliadau priodas Dug a Duges Caergrawnt heddiw, mae rhai grwpiau o weriniaethwyr wedi bod yn protestio yn erbyn y frenhiniaeth.
Mae Republic, grŵp sy’n pwyso am ddiddymu’r frenhiniaeth, wedi bod yn cynnal parti stryd yn dwyn yr enw ‘Not the Royal Wedding’ yng nghanol Llundain.
Roedd dros 200 o bobl yn y parti yn gwisgo crysau T gyda ‘Citizen not Subject’ ac yn mwynhau bwyd, diod a gemau i sŵn band ffanffer yn Red Lion Square, Holborn.
Fe wnaeth John Deery, 45 o Orllewin Llundain ddisgrifio’r teulu brenhinol fel “rhywbeth na ellir ei gyfiawnhau” yn y dydd sydd ohoni.
“Dydw i ddim yn anarchydd ond rydw i eisiau cymdeithas deg, democratiaeth deg a does gennym ni ddim hynny ar hyn o bryd,” meddai.
Yn yr Alban hefyd mae gweriniaethwyr wedi bod yn ymgasglu y tu allan i gartref swyddogol y Frenhines yng Nghaeredin.
Roedd criw o dros 100 o bobl ger giatiau Plas Holyroodhouse yn gweiddi sloganau fel ‘Whose place? Our palace?’ ac ‘one solution – execution’.
Meddai Gerry Corbett, aelod o Blaid Sosialaidd yr Alban, a gymerodd ran yn y brotest: “Fel unigolion, does dim llawer o ots gen i am y teulu brenhinol. Rydyn ni’n credu mewn gweriniaeth lle caiff pobl eu hethol, nid rhyw frenhiniaeth anetholedig.
“Y cyfan y mae’r digwyddiad yma’n ei wneud yw tynnu sylw oddi wrth y toriadau anferth mewn cyllidebau sy’n digwydd ar hyn o bryd.”