Archesgob Caergaint yn priodi'r ddau ar allor Abaty Westminster (PA)
Yn y gwasanaeth priodas yn Abaty Westminster, mae Archesgob Caergaint wedi cyhoeddi bod y Tywysog William a Kate Middleton yn ŵr a gwraig.

Roedd biliynau o bobl ledled y byd wedi gweld priodas y ddau y mae disgwyl iddyn nhw fod yn frenin a brenhines ryw ddiwrnod.

Cyrhaeddodd y briodferch yr abaty hanesyddol mewn gŵn o liw ifori, ac arni les blodeuog wedi ei dylunio gan Sarah Burton o Alexander McQueen.

Mae’r dywysoges, sy’n cael ei hadnabod fel Ei Huchelder Brenhinol Duges Caergrawnt, yn gadael yr abaty fel aelod mwyaf newydd y teulu brenhinol a’r ddarpar-frenhines Catherine.

Ym mhresenoldeb y Frenhines, Dug Caeredin, Tywysog Cymru a rhieni Kate Middleton, Carole a Michael Middleton, gosododd William y fodrwy o aur Cymru ar fys Kate.

Ar ôl iddyn nhw gyfnewid eu llwon priodasol, cyhoeddodd Archesgob Caergaint:

“Cyhoeddaf y byddant yn ŵr a gwraig gyda’i gilydd, yn enw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Amen.”