Fe fydd y Tywysog William a Kate Middleton yn cael eu hadnabod fel Dug a Duges Caergrawnt ar ôl eu priodas heddiw.
Mae’r Frenhines wedi cyflwyno teitl o ddugaeth i’w hŵyr – teitl uchaf aristrocratiaeth – i ddathlu’r achlysur.
Daw hyn wrth i gannoedd ar filoedd o bobl gasglu yn Llundain i edrych ar y briodas frenhinol.
Bydd misoedd o baratoadau yn dod i ffrwyth wrth i’r cwpl briodi o flaen 1,900 o westeion, yn fyw ar y teledu i ddwy biliwn o bobl y bore yma.