Fydd lly
Sami Khiyami - dim gwahoddiad (Khiyami CCA 3.0)
s gennad Syria ddim yn cael mynd i’r briodas frenhinol fory wedi’r cyfan.

Mae’r Swyddfa Dramor, gyda chydsyniad Palas Buckingham, wedi penderfynu na fyddai hynny’n “dderbyniol” ar ôl protestiadau eang am y gwahoddiad.

Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi bod yn feirniadol o weithredoedd Llywodraeth Syria yn lladd cannoedd o bobol sy’n protestio am ragor o ddemocratiaeth a chael gwared ar yr Arlywydd Assad.

Cyn hyn, roedd y Swyddfa Dramor wedi dweud bod cynrychiolwyr pob gwlad wedi cael gwahoddiad, os oedd ganddyn nhw “berthynas ddiplomyddol arferol” gyda gwledydd Prydain.

Tan heddiw, roedd hynny’n cynnwys Syria ond mae’r Swyddfa Dramor wedi newid eu meddwl ac mae’r gwahoddiad i Sami Khiyami wedi cael ei ddileu.

“O ystyried ymosodiadau’r wythnos hon gan luoedd diogelwch Syria yn erbyn pobol gyffredin, mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi penderfynu y byddai presenoldeb Llysgennad Syria yn y Briodas Frenhinol yn annerbyniol ac na ddylai ddod.

“Mae Palas Buckingham yn rhannu barn y Swyddfa Dramor.”