Pencadlys Nokia yn y Ffindir (Majestic CCA 3.0)
Mae cwmni ffonau symudol Nokia yn bwriadu torri 700 o swyddi yn y Deyrnas Unedig yn rhan o’u cynlluniau i gael gwared ar 4,000 o swyddi trwy’r byd.

Fe ddywedodd y cwmni y byddai’r swyddi’n dod i ben erbyn diwedd 2012 wrth iddyn nhw geisio torri £886 miliwn mewn costau.

Mae cwmni ffonau symudol mwyaf y byd yn cyflogi 2,400 o bobl yn y Deyrnas Unedig gyda’u prif safleoedd yn Llundain, Farnborough a Hampshire.  Mae disgwyl y bydd y safle yn Farnborough yn cau ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Fe ddywedodd Nokia y bydd mwyafrif y swyddi’n cael eu colli yn adrannau ymchwil a datblygu yn ogystal ag mewn adrannau meddalwedd.

Cadw pedair canolfan

Bydd y cwmni o’r Ffindir yn parhau i gadw swyddfeydd ym Mryste, Caergrawnt, Llundain a Hampshire.

Mae Nokia wedi cydnabod mae’r Deyrnas Unedig ynghyd a Denmarc a’r Ffindir sydd wedi dioddef y toriadau mwyaf mewn swyddi.

Fe ddaw’r newyddion wythnos ar ôl i’r cwmni ddatgelu bod eu cyfannau wedi syrthio llawer wrth iddyn nhw golli tir i iPhone cwmni Apple.

Fe fydd Nokia’n gobeithio taro ‘nôl yn y farchnad trwy ddefnyddio meddalwedd Microsoft Windows yn eu smartphones yn ôl eu prif weithredwr, Stephen Elop.