Logo Playstation
Mae peryg bod hacwyr wedi cael gafael ar fanylion personol miliynau o bobol sy’n chwarae PlayStation ar rwydwaith y gwneuthurwyr, Sony.

Fe allai hynny gynnwys geiriau cyfrin a gwybodaeth am gardiau credyd ar gyfer tair miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain a 70 miliwn ar draws  y byd.

Mae’r bobl sy’n defnyddio’r system gemau fideo byd eang wedi’u htal rhag defnyddio’r rhwydwaith ers i rywrai hacio i mewn iddo ddydd Mercher diwetha’.

Cadw llygad

Mae penaethiaid Sony wedi rhybuddio pobol i gadw llygad am e-byst a galwadau ffôn ffug ac mae arbenigwyr yn awgrymu y dylai pobol newid eu cyfrineiriau.

Maen Sony wedi cyflogi cwmni diogelwch i ymchwilio i’r achos ac wedi cymryd camau i ail-adeiladu’r system gan gynnig lefel uwch o ddiogelwch ar gyfer manylion personol.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi neges yn ymddiheuro i ddefnyddwyr gan ddweud y byddan nhw’n gyrru e-bost i’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef o ganlyniad i’r hacio.

Dim ffigurau diogelwch

Er bod gwybodaeth cardiau credyd wedi’u dwyn, maen nhw’n dweud nad yw’r hacwyr wedi cael gafael ar y tri digid diogelwch ar gefn cardiau credyd a does dim adroddiadau eto am achosion o dwyll.

Petai hacwyr yn llwyddiannus, dyma fyddai’r weithred o ladrata data ariannol mwyaf o’i math.