Y Prif Weinidog, David Cameron
Dylai pleidleiswyr Llafur fanteisio ar y cyfle i orchfygu’r prif weinidog David Cameron trwy bleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm ar y bleidlais amgen (AV) yr wythnos nesaf.

Dyna yw neges y cyn-ysgrifennydd busnes yr Arglwydd Peter Mandelson, sy’n dal i fod yn ffigur dadleuol a dylanwadol o fewn y Blaid Lafur.

Yn wahanol i’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae Llafur yn rhanedig ar bwnc y bleidlais amgen, gyda’r arweinydd Ed Miliband yn ymgyrchu o blaid, ond rhai o hoelion wyth y gorffennol fel John Prescott a Margaret Beckett ym ymgyrchu yn erbyn.

Fe allai pleidlais cefnogwyr Llafur felly fod yn gwbl allweddol i ganlyniad y refferendwm ar Fai 5.

Tensiynau

Fe ddaw sylwadau’r Arglwydd Mandelson wrth i’r tensiynau gynyddu rhwng y Torïaid a’r Democratiaid yn sgil dadlau chwerw rhwng dwy blaid y gynghrair yn ymgyrch y refferendwm.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi cyhuddo David Cameron o geisio cadw’r drefn bresennol o bleidleisio er mwyn amddiffyn “elît asgell dde”, ac mae’r Ysgrifennydd Ynni Chris Huhne wedi awgrymu camau cyfreithiol yn erbyn “anwireddau” gan yr ymgyrch ‘Na’.

Ond mae aelodau seneddol Torïaidd wedi eu collfarnu’r ddau fel “cwynwyr” a “chollwyr gwael”.

‘Gwanhau’

Yn ôl yr Arglwydd Mandelson, mae’r Prif Weinidog wedi caniatáu i’r ddadl ar AV ddod yn “sgarmes bleidiol o fewn y glymblaid” er mwyn amddiffyn ei hun fel arweinydd.

“Mae angen i bobl Llafur holi pam fod Cameron mor benderfynol o bleidlais ‘Na’ meddai’r Arglwydd Mandelson.

“Mae hyn oherwydd y byddai pleidlais ‘Ie’ yn gyrru’r Torïaid yn wallgof a byddai hynny’n ei wanhau’n fawr.

“Mae Torïaid asgell dde eisoes wedi bod yn rhybuddio y byddai’n gwneud Cameron yn arweinydd a fyddai wedi colli. Mae hyn yn rhywbeth y dylai cefnogwyr Llafur ei gadw mewn cof wrth iddyn nhw ystyried sut i bleidleisio.”