arian
Mae prifathrawon yn wynebu galwadau i ddatgelu eu cyflogau ymysg pryderon bod mwy ohonynt yn ennill symiau chwe ffigwr. 

Mae ysgrifennydd cyffredinol undeb athrawon NASUWT, Chris Keates wedi dweud na ddylai prif athrawon cael eu hesgusodi a chyhoeddi eu cyflogau pan mae’n ofynnol i brif weithredwyr sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. 

Fe rybuddiodd Chris Keates bod cyflogau uchel ymysg prif athrawon yn fwy cyffredin wrth i ysgolion cael mwy o ryddid yn ogystal â nifer yn troi’n academïau. 

Mae’r undeb wedi cymeradwyo cynnig yn eu cynhadledd flynyddol yn Glasgow yn galw ar swyddogion i barhau gyda’r ymgyrch am well eglurder yn ymwneud a chyflogau a gwobrau penaethiaid ysgolion. 

Fe ddywedodd ysgrifennydd cyffredinol NASUWT bod Llywodraeth San Steffan yn creu diwylliant lle nad oes rhaid i ysgolion gadw at fframwaith cyflogau cenedlaethol. 

Mae academïau yn rhydd o’r fframwaith cyflogau cenedlaethol sy’n golygu bod hawl ganddynt osod eu lefelau cyflogau eu hunain. 

Mae’r cynnig gan yr undeb yn dweud bod gormod o benaethiaid wedi sicrhau cyflogau uwch o dan y system yma. 

Fe ddaeth i’r glawr llynedd bod Mark Elms, prifathro Ysgol Gynradd Tidemill yn Llundain yn ennill cyflog o £276,523 y flwyddyn. 

Mae Gweinidogion eisoes wedi dweud y bydden nhw’n ystyried cynigion i gyfyngu ar gyflogau prifathrawon i sicrhau nad ydynt yn ennill mwy ‘na £142,500 mae Prif Weinidog Prydain yn ennill mewn blwyddyn.