addysg
Mae straen y gwaith yn gyrru athrawon o’r proffesiwn, ac yn gwneud i rai ystyried eu lladd eu hunain, yn ôl tystiolaeth i gynhadledd heddiw.

Fe glywodd cynhadledd undeb yr NUT yn Harrogate fod cynnydd “anhygoel” wedi bod yn nifer yr achosion o “straen” o fewn y proffesiwn o ganlyniad uniongyrchol i ymgyrchoedd gan y llywodraeth.

“Fel ysgrifennydd rhanbarthol, dw i wedi gweld cynnydd anhygoel yn nifer yr achosion o straen, ac ar fwy nac un achlysur, dw i wedi gorfod cefnogi aelodau sydd wedi bod yn ystyried hunanladdiad,” meddai Sue McMahon o Calderdale.

“Mae hyn o ganlyniad i’r cynnydd yn y gofynion a’r disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar aelodau trwy dargedau’r llywodraeth.

“Mae tswnami o dargedau yn sgubo i ffwrdd yr athrawon hynny yr ydan ni’n gwneud ein gorau i’w cefnogi nhw.”

Yn ôl John Illingworth o Nottingham, mae nifer yr hunanladdiau sy’n deillio o straen ar athrawon, yn “isel ond yn arwyddocaol”.

“Mae anhwylder sy’n gysylltiedig â straen ar athrawon yn rhemp, ac yn effeithiol ar filoedd o athrawon bob blwyddyn,” meddai wedyn. Dyna’r hyn sy’n fwya’ tebygol o ddod â gyrfa athro i ben.”

Galwodd am fwy o help er mwyn cael gwared â straen mewn ysgolion.