Llun o wefan swyddogol y briodas
Fydd pennaeth un o’r gwledydd sydd wedi sathru ar brotestiadau’r Dwyrain Canol ddim yn derbyn y gwahoddiad i’r briodas frenhinol yr wythnos nesa’.

Fe gadarnhaodd llefarwyr y teulu brenhinol fod y Tywysog Coronog o Bahrain ymhlith y gwahoddedigion yn Abaty Westminster.

Ond mae ef bellach wedi dweud na fydd yn dod, oherwydd y protestiadau treisgar yn Bahrain.

Mae’r genedl o ynysoedd yng Nghulfor Persia wedi cael ei beirniadu ar ôl i o leia’ bump o brotestwyr gael  eu lladd gan heddlu ym mis Chwefror ac ar ôl i luoedd arfog Sawdi Arabia gael eu croesawu yno ym mis Mawrth.

Mae’r enwau sydd wedi eu cyhoeddi gan y teulu brenhinol hefyd yn cynnwys nifer o Gymry, gan gynnwys Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones a’u gwragedd.

Fe fydd dau arweinydd crefyddol Cymreig – Archesgob Cymru Barry Morgan a Llywydd yr Eglwysi Rhyddion, Gareth Morgan Jones – yno hefyd.

Ymhlith yr enwau mwy annisgwyl, mae’r chwaraewr rygbi Gareth Thomas sydd wedi cwrdd â’r Tywysog William yn rhinwedd swydd hwnnw’n Is-Noddwr i Undeb Rygbi Cymru.