Cernyw
Mae heddlu’n ymchwilio wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod ar ymyl llyn hwylio yng Nghernyw.

Fe ddaeth swyddogion Heddlu Dyfnaint a Chernyw i godi’r corff o’r dwr yn Millbrook ger Torpoint, Cernyw, gyda chymorth Gwyliwr y Glannau Brixham, wedi i gerddwr oedd yn pasio heibio gysylltu â nhw tuag wyth o’r gloch fore heddiw (Gwener y Groglith).

“Rydyn ni’n parhau i gynnal ymchwiliad er mwyn adnabod y corff a cheisio dyfalu sut y bu farw,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.