Ed Miliband
Mae arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, yn cael triniaeth ar ei drwyn, er mwyn ei helpu oi gysgu’r nos.

Mae Mr Miliband wedi cael ei ddiagnosio fel dioddefydd apnoea cwsg – cyflwr sy’n torri ar draws batrwm anadlu yn ystod cwsg, ac yn deffro’r dioddefwr.

Mae’r cyflwr yn waeth gan Ed Miliband oherwydd bod ei septwm (y ‘wal’ sy’n gwahanu dwy siambr y trwyn) yn gam.

Fe fydd yn mynd i’r ysbyty ddiwedd Gorffennaf er mwyn cael y llawdriniaeth, jyst cyn i Aelodau Seneddol ddechrau eu gwyliau haf.

Roedd adroddiadau yn y wasg wedi awgrymu fod Mr Miliband yn cael y driniaeth er mwyn gwella ansawdd ei lais, ac i’w atal rhag swnio mor anwydog pan yn siarad.