Tywysog William a Kate Middleton
Fydd Brenin Norodom Sihamoni ddim yn hawlio ei le ochr yn ochr ag arweinwyr byd, brenhinoedd a breninesau’r byd ym mhriodas y Tywysog William a Kate Middleton wythnos i heddiw..

Fe fydd y brenin ar goll o’r rhesi o bobol bwysig sy’n cynnwys Swltan Brunei a’r Brenin Cwstennin o wlad Groeg a’i wraig yntau, y frenhines Anne-Marie.

Ar ben y rhestr o enwogion a fydd yn mynychu’r seremoni yn Abaty Westminster y mae David a Victoria Beckham, ynghyd ag Elton John a’i bartner, David Furnish; y cyflwynydd teledu Ben Fogle a’i wraig Marina; a Tara Palmer-Tomkinson.

Fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yno gyda’i wraig Samantha, ynghyd â’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a’i wraig yntau, Miriam. Mae disgwyl aelodau eraill o gabines y glymblaid, yn ogystal ag arweinydd yr wrthblaid, Ed Miliband a’i ddyweddi, Justine Thornton.

Fe fydd yna bobol o blwyf genedigol Kate Middleton yn Bucklebury, Berkshire, hefyd yn bresennol. Yn eu plith fe fydd John Haley, landlord hoff dafarn Miss Middleton, yr Old Boot Inn, ynghyd â’r cigydd, Martin Fidler, a’r postmon, Ryan Naylor.

Y gred ydi nad atebodd Brenin Norodom y gwahoddiad a anfonwyd ato rai misoedd yn ôl. Ond mae Palas St James yn gwrthod gwneud sylw ar y mater.