police
Fe gafodd wyth heddwas eu brifo wedi i reiat dorri allan ym Mryste dros nos.

Fe fu tua 160 o blismyn mewn dillad reiat eu defnyddio i wneud cyrch ar dy yn ardal Stokes Croft o’r ddinas tua 9.15pm neithiwr. Y bwriad oedd arestio pedwar o bobol sy’n cael eu disgrifio fel “bygythiad go iawn i’r gymuned leol”.

Ond fe achosodd y cyrch anfodlonrwydd yn y strydoedd gerllaw, gyda channoedd o bobol yn dechrau protestio’n erbyn yr heddlu ac yn dechrau ymosod ar yr heddlu a thaflu cerrig tuag atyn nhw. Fe gafodd bomiau petrol eu taflu at siop Tesco Metro yn Cheltenham Road.

Mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Rod Hansen o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, wedi amddiffyn y cyrch trwy ddweud: “Mae trigolion lleol wedi ein galw ni i sawl digwyddiad yn y ty hwn dros y dyddiau diwethaf. Ddoe, roedd yna fygythiad go iawn i’r gymuned leol oddi wrth y bomiau petrol oedd yn cael eu cynhyrchu yn y ty, ac roedd yn rhaid i ni ymateb.”

“Pan grynhodd 300 o bobol o gwmpas y ty, a phan ddechreuodd carfan fechan o’r rheiny daflu arfau bychain, cerrig a photeli aton ni, fe ddefnyddion ni gynlluniau yr ydyn ni wedi eu hymarfer yn drylwyr er mwyn dod â’r sefyllfa dan reolaeth.”

Roedd pob peth dan reolaeth erbyn 4 y bore. Fe gafodd pedwar o bobol eu harestio.