Mae llanc 17 oed wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl i ferch pedair oed gael ei tharo yn ei hwyneb â bricsen.

Dygwyd cyhuddiad yn erbyn y llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, o ymgais i glwyfo ar ôl i Jersey-Lou Perry gael ei hanafu yn fan ei thad yr wythnos diwethaf.

Dywedodd yr heddlu fod bricsen wedi ei thaflu trwy ffenestr fan Kyle Perry yn Rutland Street, Grimsby, gogledd ddwyrain Lincolnshire, wythnos yn ôl.

Dywedodd Mr Perry fod yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl iddo ddweud y drefn wrth griw o lanciau ar ôl i bêl daro ei gerbyd.

Yn ôl yr heddlu roedd Jersey-Lou wedi dioddef “anafiadau dychrynllyd”.

Cadarnhaodd swyddogion y llys fod y llanc wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Grimsby heddiw a’i fod wedi ei gadw yn y ddalfa hyd nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid y dref ddydd Mercher nesaf.

Yn gynharach dywedodd mam Jersey-Lou, Laura Mussell, wrth bapur newydd The Sun fod ei merch yn fwy pryderus am ei hanner chwaer India, sy’n ddwy oed, ac oedd wrth ei hochr yn y fan.

Dywedodd Ms Mussell nad oedd Jersey-Lou wedi yngan gair am oriau wedi’r digwyddiad.

Meddai: “Yna dihunodd yn sydyn am 3am, edrych arnaf a gofyn a oedd wyneb ei chwaer yn iawn.”

Er mai dim ond crafiadau a gafodd India, torrwyd trwyn Jersey-Lou, collodd ddau ddant a chafodd sawl anaf arall i’w hwyneb.