Mae un o Aelodau Cynulliad Llundain wedi rhybuddio pobol sydd am deithio i’r ddinas yn ystod y briodas fawr fod lefelau llygredd yn uchel yno.
Mae Jenny Jones o’r Blaid Werdd wedi ysgrifennu at Faer Llundain, Boris Johnson, yn galw arno i sicrhau bod ymwelwyr yn ymwybodol o’r mwrllwch (smog) ynghanol y ddinas.
Daw’r rhybudd wedi i ffigyrau ddangos bod ansawdd yr aer ynghanol y ddinas yn waeth na’r isafswm sy’n cael ei ganiatâd dan reolau’r Undeb Ewropeaidd.
Mae gan Lywodraeth San Steffan nes mis Mehefin er mwyn datrys y broblem neu fe fydd yn wynebu dirwy.
Ond dywedodd Jenny Jones y dylai ymwelwyr gael gwybod nad ydi safon yr aer yn ddigon da cyn y Briodas Frenhinol.
“Fe fydd yna gannoedd o filoedd o deithwyr yn mynd i ganol Lundain, un o’r dinasoedd mwyaf llygredig yn Ewrop,” meddai.
“Fe ddylai’r Maer roi gwybod i bobol fod anadlu’r aer yno yn peryglu eu hiechyd.
“Mae’n bwysig i bobol sy’n dioddef o broblemau anadlu hirdymor gael gwybod am hyn.
“Mae safon yr aer yn Llundain yn wael ar hyn o bryd ac mae hynny’n debygol o fod yn wir adeg y Briodas Frenhinol hefyd.”