Mae’r Gemau Olympaidd yn destun mwy o falchder i bobol Lloegr na’r Briodas Frenhinol, yn ôl arolwg newydd.

Cafodd 2,000 o bobol eu holi cyn diwrnod San Siôr ddydd Sadwrn ynglŷn â beth oedd yn eu gwneud iddyn nhw deimlo’n wladgarol.

Dewisodd bron i un mewn 10 (28%) y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Dywedodd 27% mai priodas y Tywysog William a Kate Middleton wythnos i ddydd Gwener oedden nhw fwyaf balch ohono.

Roedd 83% o’r rheini a holwyd yn dweud eu bod nhw’n falch o fod yn Saeson.

Dywedodd 75% y bydden nhw’n hoffi gweld rhagor o sylw i ddiwrnod Sant Siôr ond dim ond 12% oedd yn bwriadu dangos y fflag ddydd Sadwrn.

Yn ôl yr arolwg gan fragdy Wells and Young’s y De Ddwyrain oedd y rhanbarth fwyaf gwladgarol o Loegr.

Llundain oedd y rhanbarth lleiaf gwladgarol er mai yno y bydd y briodas frenhinol a’r gemau Olympaidd yn cael eu cynnal.

Rhanbarth mwyaf gwladgarol Lloegr

1. De Ddwyrain (85.5%)

2. Gorllewin y Canolbarth (85%)

3. Gogledd Orllewin (84.7%)

4. Dwyrain y Canolbarth (84.6%)

5. Swydd Efrog a Humber (84%)

=6. De Orllewin (82.8%)

=6. Gogledd Ddwyrain (82.8%)

8. Dwyrain Anglia (82.7%)

9. Llundain (81.8%)