Mae dyn ifanc yn cael ei holi gan yr heddlu ar ôl i ferch bedair oed gael ei tharo yn ei hwyneb gan fricsen yn Swydd Lincoln.

Cafodd y llanc 17 oed ei arestio neithiwr a’i gadw yn y ddalfa dros nos yn dilyn yr ymosodiad yn Grimsby.

Dioddefodd Jersey-Lou Perry anafiadau i’w hwyneb. Torrwyd ei thrwyn ac fe gollodd dau o’i dannedd.

Aethpwyd a hi i’r ysbyty ar ôl i’r fricsen lansio yn fan ei thad Kyle Perry, 23, oedd wedi stopio’r cerbyd er mwyn rhoi llond ceg i grŵp o 15 o bobol ifanc oedd wedi cicio pêl at y fan.

Dywedodd fod y bobol ifanc wedi ymosod ar y cerbyd a thaflu bricsen drwy’r ffenestr.

Aethpwyd a’r ferch i Ysbyty’r Dywysoges Diana yn Grimsby a bu’n rhaid iddi aros i mewn dros nos.

Dywedodd ei mam Laura Mussell, 22, wrth bapur newydd y Grimsby Telegraph y byddai ganddi “gywilydd” pe bai hi’n rhiant i un o’r dynion ifanc.

“Fe fyddwn i’n eu llusgo nhw i lawr i’r orsaf heddlu,” meddai.

Dywedodd Heddlu Humberside eu bod nhw wedi arestio dyn 17 oed neithiwr a’i fod yn dal yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd am 3.30pm ddoe. Maen nhw’n galw ar unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.