Elisabeth Sladen
Mae’r actores Elisabeth Sladen, ymddangosodd yng nghyfres ffuglen wyddonol Doctor Who a’r gyfres atodol The Sarah Jane Adventures, wedi marw yn 63 oed.

Chwaraeodd Elisabeth Sladen rhan cyfaill y Doctor, Sarah Jane Smith, o 1973 nes 1976.

Yn fwy diweddar ymddangosodd yng nghyfres The Sarah Jane Adventures ar sianel plant CBBC.

Roedd y gyfres honno a chyfresi diweddaraf Doctor Who wedi eu cynhyrchu gan BBC Cymru.

Mewn datganiad dywedodd y BBC fod Elisabeth Sladen wedi bod yn brwydro yn erbyn canser ers peth amser, ac wedi marw bore ddoe.

Dywedodd rheolwr sianel CBBC, Damian Kavanagh, bod “marwolaeth Lis yn sioc ac yn peri tristwch mawr”.

“Roedd ei chynulleidfa ifanc yn ei haddoli ac rydw i’n gwybod y byddwn nhw’n gweld ei heisiau hi cymaint â fi,” meddai.