Gordon Brown
Mae David Cameron wedi awgrymu y bydd yn ymyrryd er mwyn atal Gordon Brown rhag cael ei benodi’n rheolwr gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Dywedodd y Prif Weinidog nad ei olynydd oedd “y dyn mwyaf cymwys” i arwain y gronfa am nad oedd yn fodlon cyfaddef bod gan Brydain broblem â’i dyled.

Byddai angen i Gordon Brown gael ei enwebu gan Lywodraeth San Steffan cyn gallu ymgeisio am y swydd £270,000 y flwyddyn.

“Dw i ddim wedi treulio llawer iawn o amser yn meddwl am hyn  ond yn fy nhyb i nid dyn oedd yn gwadu fod gan Brydain broblem â dyled fyddai’r person mwyaf priodol i benderfynu a oes angen cymorth ar wledydd eraill ledled y byd,” meddai David Cameron.

Ychwanegodd y Prif Weinidog wrth raglen Today ei fod yn hollbwysig fod rhywun “cymwys a galluog” wrth y llyw a chlodforodd y pennaeth cyfoes Dominique Strauss-Kahn am wneud “swydd dda”.

Awgrymodd y dylai’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ystyried penodi Rheolwr Gyfarwyddwr o ran arall o’r byd er mwyn rhoi hwb i’w enw da yn fyd-eang.

“Mae India a China a De Asia ar gynnydd ac efallai ei fod yn bryd i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ystyried hynny,” meddai.

“Y peth pwysicaf ydi bod pwy bynnag sy’n rheoli’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhywun sy’n deall peryglon diffygion ariannol mawr.

“Rhaid iddo fod yn rhywun sy’n deall hynny yn hytrach na rhywun sydd ddim yn gweld fod problem.”