Mae archfarchnad Tesco wedi datgelu eu bod nhw wedi gweld cwymp yn eu gwerthiant ym Mhrydain yn ystod pedwerydd chwarter 2010.

Dywedodd y cwmni bod gwerthiant heb gynnwys Treth ar Werth a thanwydd wedi disgyn 0.7% yn y tri mis hyd at 26 Chwefror.

Roedd hynny’n golygu nad oedd gwerthiant wedi cynyddu dros y flwyddyn gyfan, wrth i gwsmeriaid wario llai.

Serch hynny roedd cynnydd mewn gwerthiant dramor yn golygu fod y cwmni wedi gweld cynnydd 12.3% mewn elw, i £3.8 biliwn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr archfarchnad bod prisiau petrol a thoriadau Llywodraeth San Steffan wedi taro cwsmeriaid yn ariannol.

“Wnaethon ni ddim cyrraedd ein targedau o ran twf mewn gwerthiant dros y flwyddyn ddiwethaf ac roedd hynny yn rhannol oherwydd bod yr hinsawdd economaidd wedi dirywio yn ail hanner y flwyddyn,” meddai Tesco.

“Fe allwn ni wneud yn well ac rydyn ni’n gweithredu mewn sawl man allweddol – er enghraifft, wrth greu cynnyrch gwreiddiol a chyfathrebu’n well â chwsmeriaid.”