Mae pobol ifanc yn teimlo “chwerwedd” tuag at weithwyr sy’n aros yn eu swyddi ar ôl cyrraedd eu 60au, yn ôl arolwg newydd.

Holodd cwmni cartrefi gofal Anchor dros 2,000 o oedolion. Roedd dau o bob pum person 18 i 24 oed yn teimlo nad oedd digon o swyddi ar gael i gyfiawnhau cyflogi pobol hŷn.

Yn ôl yr arolwg roedd pobol ifanc yn credu fod unrhyw un dros 62 oed “yn hen”.

Roedd un ym mhob pump yn credu fod gweithwyr oedd dros eu 60 yn arafach wrth eu gwaith, ac un ym mhob 20 yn credu y dylen nhw gael eu talu llai.

“Does gan ragfarn oed ddim lle yn ein cymdeithas ni. Mae gweithwyr dros 60 oed yn cyfrannu’n fawr iawn i rai o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn y wlad,” meddai Jane Ashcroft, prif weithredwr Anchor.

“Mae gan Lywodraeth San Steffan weinidog sy’n cynrychioli merched, yr anabl, a phlant, ond neb sy’n cynrychioli pobol hŷn, sef 25% o’r boblogaeth.”