Mae dau ddyn ifanc o ganolbarth Lloegr wedi cael eu saethu’n farw tra ar wyliau yn Florida.

Cafwyd hyd i James Cooper, 25, a James Kouzaris, 24, gan blismyn yn ninas Sarasota, ar arfordir de-orllewinol y dalaith yng ngwlff Mecsico yn oriau mân bore ddoe.

Roedd y plismyn wedi cael eu galw i stryd yng ngogledd y ddinas tua 3 o’r gloch y bore, lle gwelwyd y ddau gorff o fewn 50 troedfedd i’w gilydd.

Mae bachgen 16 oed wedi cael ei arestio a’i gyhuddo â dwy lofruddiaeth.

Roedd James Cooper o Warwick James Kouzaris o Northampton wedi bod yn aros ar ynys Longoat Key, tua 12 milltir o’r stad o dai lle cafwyd hyd i’w cyrff.

Eu bwriad oedd treulio tair wythnos yn Sarasota.

Dywedodd y Capten Paul Sutton o heddlu Sarasota nad oedd unrhyw gysylltiad y gwyddon nhw amdano rhwng y ddau a’r sawl sydd wedi cael ei gyhuddo o’u lladd.

“Rydym yn dal i ymchwilio pam y bydden nhw yn yr ardal yma,” meddai.

“Mae’n anghyffredin cael hyd i ymwelwyr yn yr ardal yma. Does dim siopau na bariau yma. Wyddon ni ddim beth ddaeth â nhw yma am 3 y bore.”

Meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Gallwn gadarnhau marwolaethau dau o Brydain ar wyliau yn Sarasota ar Ebrill 16.”