David Cameron - 'tad' y Gymdeithas Fawr
Mae arweinydd crefyddol wedi rhybuddio’r Llywodraeth rhag troi’r Gymdeithas Fawr yn esgus tros olchi ei dwylo a gwadu ei chyfrifoldeb.

Does gan y syniad “ddim dannedd”, meddai’r Archesgob Vincent Nichols, pennaeth yr Eglwys Babyddol yng Nghymru a Lloegr.

Hyd yn hyn, mae wedi cefnogi’r syniad o ragor o weithredu cymunedol ond, wrth i’r toriadau gwario afael o ddifri’, mae’n rhybuddio bod angen mwy na geiriau.

Y Gymdeithas Fawr yw babi’r Prif Weinidog, David Cameron, sydd wedi bod yn gwthio’r syniad ers cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Sylwadau’r Archesgob

“Ddylai’r Llywodraeth ddim golchi ei dwylo tros wario a disgwyl i ragor o weithgaredd wirfoddol godi’r slac,” meddai wrth bapur y Sunday Telegraph.

“Ddylai’r broses o datganoli mwy o rym i awdurdodau lleol ddim cael ei ddefnyddio i guddio toriadau canolog.

“Dyw hi ddim yn ddigon i’r Llywodraeth gamu’n ôl oddi wrth angen cymdeithasol a dweud mai mater lleol yw hwn.”

Mae’r Gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, wedi ateb trwy ddweud y bydd rhagor o weithredu’n digwydd, gan gynnwys creu Banc y Gymdeithas Fawr.