Mae'r llinell las yn dangos llwybr yr M1 i Lundain
Mae tagfeydd traffig trwm ar gyrion Llundain heddiw oherwydd fod rhannau o draffordd yr M1 wedi cau drwy’r dydd.

Mae peirianwyr priffyrdd wrthi’n dal i asesu’r difrod a gafodd ei achosi gan dân mewn safle sgrap o dan yr M1 gerllaw’r groesfan â’r M25.

Fe fu tua 40 o ymladdwyr tân wrth’n ceisio diffodd y tân ddoe, ac yn ôl Gwasanaeth Tân Llundain fe ffrwydrodd amryw o silindrau nwy yn y gwres. Fe fu’n rhaid i 50 o bobl a oedd yn byw gerllaw adael eu cartrefi dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth Priffyrdd Lloegr yr M1 wedi cau “hyd nes bydd yn ddiogel ei hailagor”. Mae disgwyl, fodd bynnag, y bydd yn ailagor tua 7 heno.

Mae’r tagfeydd yn waeth oherwydd fod y traffig yn anghyffredin o drwm p’run bynnag y penwythnos yma yn Llundain. Mae hyn yn sgil pobl yn gadael Llundain i fynd ar wyliau, cefnogwyr pêl-droed yn teithio i Wembley i weld gêm gyn-derfynol Cwpan yr FA rhwng dau dîm Manceinion a phobl yn teithio ar gyfer marathon Llundain yfory.