Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Kenneth Clarke (yup CCA 2.0)
Mae carcharu troseddwyr i’r graddau sy’n digwydd ar hyn o bryd yn ddefnydd gwael o arian trethdalwyr, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Kenneth Clarke.

Mae disgwyl y bydd yn cyhoeddi cynlluniau’r mis nesaf a fydd yn arwain at leihad o tua 3,000 ym mhoblogaeth carchardai Cymru a Lloegr.

Dywedodd fod angen dedfrydau cymunedol llymach i gymryd lle rhai dedfrydau o garchar.

“Dylai gwaith di-dâl ei gwneud hi’n ofynnol i droseddwyr weithio mewn ffordd ddisgybledig yn hytrach na phobl ifanc yn gwneud mân bethau fel tacluso safleoedd blêr,” meddai.

Cefnogaeth

Mae’n wfftio at honiadau ei fod yn ‘feddal’ ar droseddu, a dywed fod ganddo gefnogaeth lwyr y Prif Weinidog a chyd-aelodau ei gabinet i’w gynlluniau.

“Mae’n ddefnydd gwael iawn, iawn o arian trethdalwyr i ddal ati i gloi pobl mewn carchardai gor-boblog lle mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n dod allan yn fwy gwydn,” meddai.

“Mae carchardai’n wael am rwystro ail-droseddu, gyda 50 y cant o garcharorion yn cyflawni trosedd arall o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau. Ac nid dyma’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rheini a allai roi’r gorau i droseddu petai rhywun yn gwneud rhywbeth ynghylch eu problemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.”

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder yn awyddus hefyd i greu “amgylchedd gweithio” mewn carchardai, a dywedodd y bydd mwy o gwmnïau preifat yn cael eu hannog i ddysgu sgiliau a disgyblaeth i garcharorion fel y bydd hi’n haws iddyn nhw gael gwaith pan fyddan nhw’n cael eu rhyddhau.