CAP - disgwyl diwygio
Fe fyddai newidiadau yn y Polisi Amaeth Ewropeaidd yn arwain at ragor o fiwrocratiaeth i ffermwyr, meddai pwyllgor o Aelodau Seneddol.

Maen nhw’n dweud y byddai rhoi sbardun ariannol yn well na rhagor o reolau wrth i system y CAP gael ei diwygio.

Y bwriad yw symud o’r amrywiaeth o daliadau sydd ar hyn o bryd i gael un taliad i ffermwyr ar ôl 2013. Rhan o fwriad hwnnw fyddai gwell safonau amgylcheddol.

Ond mae’r Pwyllgor Dethol ar yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig yn San Steffan wedi rhybuddio rhag rhagor o reolaeth o’r canol.

Fe fyddai grantiau i annog ffermwyr yn well na rhagor o reolau, meddai Anne McIntosh, Cadeirydd y Pwyllgor.

Roedd yr Undeb Ewropeaidd yn cynnal safonau uchel tra bod gwledydd eraill yn eu torri, meddai.