Mae nifer o brotestwyr wedi cael eu hel allan a’u gwahardd o gyfarfod blynyddol cyffredinol y cwmni olew BP heddiw ar ôl ceisio camu i’r llwyfan.

Yn eu plith roedd pysgotwyr a oedd yno i dynnu sylw at y ffaith fod eu bywiolaeth wedi’i ddinistrio ar ôl trychineb olew Gwlff Mecsico yn Deepwater Horizon.

Fe gafodd y criw – a oedd yn gwisgo crysau T yr un fath â’i gilydd – eu cario allan o Ganolfan Exel yn nwyrain Llundain gan swyddogion diogelwch wrth i Gadeirydd BP, Carl-Henric Svanberg drafod tynnu olew o dywod olew Canada.

Fe lwyddodd y criw i gyrraedd blaen llwyfan y cyfarfod yn yr awditoriwm, lle’r oedd Bwrdd BP yn eistedd  – ond fe wnaeth swyddogion diogelwch eu hatal rhag dringo ar y llwyfan.

Fe wnaeth Carl-Henric Svanberg oedi’r cyfarfod gan ddweud bod “peth cynnwrf” wrth i swyddogion diogelwch symud y grŵp oddi yno.

Yn ôl llefarydd BP, roedd y grŵp yn peri bygythiad i gyfranddalwyr eraill, ac o ganlyniad fe gawson nhw eu gwahardd o’r cyfarfod.