Y Gweinidog Busnes, Vince Cable
Mae’r Prif Weinidog wedi gwadu bod rhwyg o fewn y llywodraeth ynghylch mewnfudo ar ôl i aelod cabinet ei gyhuddo o ddefnyddio iaith “annoeth iawn oedd yn bygwth ennyn eithafiaeth”.

Ond mae David Cameron yn gwrthod beirniadaeth Vince Cable, y Gweinidog Busnes ac wedi mynnu ei fod yn delio gyda phwnc pwysig mewn ffordd “synhwyrol, cymedrol a difrifol”.

Wrth i’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol baratoi am yr etholiad cyntaf ers ymuno yn Llywodraeth, mae tensiynau wedi ailgodi am fewnfudo.

Mae Vince Cable wedi gwrthod y galw mae David Cameron wedi’i wneud am “fewnfudo da nid mewnfudo torfol”.

‘Eithafiaeth’

“Rydw i’n deall bod etholiad wrth droed, ond mae’r sôn am fewnfudo torfol yn bygwth ennyn y math o eithafiaeth yr ydw i ac yntau hefyd yn ei wrthwynebu’n gryf,” meddai Vince Cable wrth y BBC.

Fe ddywedodd David Cameron nad oedd erioed wedi bod yn swil o fynd i’r afael â mewnfudo yn ystod ei amser fel arweinydd y Torïaid.

“Mae Llywodraeth etholedig y wlad eisiau i ni dorchi llewys a delio gyda’r sefyllfa,” meddai David Cameron. 

Torri’r system fudd-daliadau

Eisoes, roedd y Prif Weinidog wedi dweud heddiw mai torri’r system fudd-daliadau yw un o’r ffyrdd o dorri ar fewnfudo i wledydd Prydain.

Mae wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri ar nifer y mewnfudwyr sy’n cael dod i’r Deyrnas Unedig.

Yr angen am “fewnfudo da, nid mewnfudo torfol” fydd un o brif negeseuon ei araith wrth anelu at fynd â ffigurau mewnfudo’n ôl i lefel 1998.