Mae bron i hanner etholwyr Prydain yn cefnogi’r system Pleidlais Amgen (AV), yn ôl arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Gyda thair wythnos i fynd tan y refferendwm ar newid y system bleidleisio, mae pôl YouGov/Y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) yn dangos bod 45% o etholwyr o blaid y bleidlais amgen. 

Mae’r arolwg o 2,199 o etholwyr yn rhoi’r ymgyrch “Ie” 12 pwynt o flaen y bleidlais “Na”.

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ddarganfod fod 17% yn dal heb fod yn siŵr os oedden nhw o blaid y Bleidlais Amgen a 6% ddim yn fodlon dweud.

“Mae’r pôl yn dweud pan mae pobl yn cael cyfle i drio’r system bleidleisio AV – bod eu cefnogaeth dros newid y system yn tyfu,”  meddai Nick Pearce, Cyfarwyddwr, yr IPPR.

Ond, fe ddywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Na fod yr IPPR yn cefnogi’r bleidlais “Ie” ac y dylid eu trin ag “amheuaeth mawr”.

“O’n hymchwil ni, rydan ni wedi darganfod unwaith mae pobl yn deall y system ddrud, annheg ac annemocrataidd hon, maen nhw’n dewis pleidleisio “na” – ac fe fyddan nhw’n gwneud hynny ar 5 Fai.”