Mae nifer y babanod marw anedig ym Mhrydain wedi’i gondemnio fel “sgandal cenedlaethol” heddiw ar ôl i ffigyrau Prydain gael eu datgelu i fod ymhlith y gwaethaf yn y byd datblygedig.

Mae mwy o fabanod yn cael eu geni’n farw ym Mhrydain na bron yn  unrhyw wlad gyfoethog arall, yn ôl ymchwil newydd.

Bob blwyddyn, mae dros 4,000 o fabanod yn cael eu geni’n farw – sy’n cyfateb i 11 y diwrnod, yn ôl ystadegau gwladol. Mae’r ffigwr wedi aros yn gyson yn ystod y degawd diwethaf.

Hefyd, mae gwahaniaethau yn ôl cod post. I ferched yng Nghanolbarth Lloegr – mae’r siawns o gael plentyn marw-anedig dair gwaith yn uwch na phetaen nhw’n byw yn y de-orllewin.

O’r holl wledydd cyfoethog, dim ond Seland Newydd, Awstria a Ffrainc sydd â niferoedd uwch. Mae record Prydain ar yr un lefel a Belarws ac Estonia.

Meddai Neal Long, Prif Weithredwr Sands, elusen sy’n cynnig cymorth i rieni babanod marw-anedig:

“Mae 11 o fabanod yn marw’r diwrnod yn sgandal cenedlaethol sydd wedi bod yn mynd ymlaen am rhy hir.

“Mae marwolaeth yr holl filoedd o fabanod hyn yn cael effaith tymor hir ofnadwy ar rieni a’u teuluoedd – a rhaid gweithredu ar unwaith. “

Yn ôl awduron yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn meddygol The Lancet – mae’r broblem “anweledig” hon yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth.

Maen nhw’n galw am sylw i strategaethau fel gwell mynediad i wasanaethau gofal a sgrinio i adnabod y merched mewn perygl er mwyn helpu ateb y broblem.