Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi newidiadau i’w cynlluniau dadleuol i breifateiddio’r Post Brenhinol.   

Mae Gweinidogion wedi cyhoeddi sawl diwygiad i Fesur y Gwasanaethau Post, sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy’r senedd. 

Mae’r diwygiadau’n cynnwys pwerau newydd i’r rheolydd Ofcom, er mwyn gallu monitro’n well unrhyw fygythiad i’r gwasanaeth cyffredinol i bawb. 

 Mae’r llywodraeth hefyd wedi dweud eu bod nhw am sicrhau mai’r Swyddfa Bost yw unig ddarparwr y gwasanaeth cyffredinol i bawb am o leiaf y deng mlynedd nesaf.   

 Mae’r Adran Busnes wedi dweud bydd y newidiadau yma’n rhoi eglurder pellach i’r drefn rheoleiddio ac yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cystadleuaeth a gwarchod y gwasanaeth cyffredinol. 

 “Mae’r Post Brenhinol yn wynebu heriau enfawr – llai o bost, diffyg i’w cronfa pensiwn, llai o effeithiolrwydd na’r cystadleuwyr a’r angen brys am gyllid,” meddai Gweinidog Materion y Post, Edwards Davey.

 “Y rheswm pennaf pam ry’n ni’n gweithredu yw sicrhau bod y gwasanaeth bost cyffredinol yn cael ei warchod wrth yr heriau yma a bod y Post Brenhinol yn gallu parhau i ddarparu a chasglu post am chwe diwrnod yr wythnos am bris fforddiadwy.”