Nick Clegg
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Lerpwl wedi galw ar y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, i adael y glymblaid yn San Steffan.

Dywedodd Warren Bradley, oedd yn arweinydd ar y cyngor cyn yr etholiad y llynedd, ei fod “wedi cael llond bol ar amddiffyn rhywbeth nad oes modd ei amddiffyn”.

Mynnodd y dylai Nick Clegg weithredu “cyn i ni ddiflannu i mewn i’r llyfrau hanes”.

Rhybuddio

Rhybuddiodd Warren Bradley arweinydd y blaid fod cynghorwyr oedd wedi gwasanaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol ers degawdau yn debygol o golli eu seddi ar 5 Mai.

“Nid oherwydd unrhyw beth y maen nhw wedi ei wneud, ond oherwydd beth ydych chi wedi ei wneud a barn y bobol ynglŷn â beth y mae’r Dems Rhydd yn ei gynrychioli,” meddai Warren Bradley mewn e-bost preifat at Nick Clegg a ddaeth i ddwylo papur newydd y Liverpool Echo.

“Yn anffodus mae’r llong ar fin taro’r creigiau (ar noson yr etholiad mae’n siŵr) ac fe fyddwn ni’n colli sawl cydweithiwr uchel ei barch a phrofiadol yng Nghyngor Dinas Lerpwl,” meddai.

“Rhaid i’n hegwyddorion rhyddfrydol ennill y dydd, rhaid i ni fod yn annibynnol a thorri pob cysylltiad â’r glymblaid. Os ydyn ni’n methu, ein seneddwyr ni fydd ar fai.”

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid nad oedd llythyr  Warren Bradley “yn cynrychioli barn y rhan fwyaf o aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol”.