Gordon Brown
Mae’r cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, wedi cyfaddef iddo wneud “camgymeriad mawr” drwy beidio â ffrwyno’r banciau pan oedd mewn grym.
Dywedodd fod y fframwaith rheoleiddio yr oedd wedi ei osod yn ei le pan oedd yn Ganghellor wedi methu a dygymod â pha mor gysylltiedig oedd y banciau.
Wrth siarad mewn cynhadledd yn yr Unol Daleithiau, dywedodd Gordon Brown ei fod yn derbyn y cyfrifoldeb ond fod sawl un arall wedi gwneud yr un camgymeriad.
Ychwanegodd ei fod yn wynebu “pwysau didostur” gan fanciau mawr Ynysoedd Prydain pan oedd mewn grym i beidio â bod a’u ffrwyno nhw.
“Roedden ni’n credu y byddai unrhyw broblemau yn dod yn sgil methiant sefydliadau unigol,” meddai. “Roedd hynny’n gamgymeriad mawr.
“Doedden ni ddim yn deall bod y perygl wedi ei daenu ar draws y system gyfan, doedden ni ddim yn deall bod y sefydliadau gwahanol wedi eu cysylltu i’r fath raddau.
“Roedd yn gamgymeriad ond yn gamgymeriad yr oedd bron i bawb oedd yn y busnes rheoleiddio wedi ei wneud hefyd.”
‘Anghyfrifol’
Dywedodd y Canghellor presennol, Ed Balls, fod “pob llywodraeth wedi gwneud yr un camgymeriad”.
“Mae Gordon Brown yn gywir wrth ddweud fod y Deyrnas Unedig wedi gwneud camgymeriad.
“Ond rhaid cofio’r anghyfrifoldeb anferth o fewn y banciau unigol a’r banciau oedd yn buddsoddi.”