Mae’n rhan fwyaf o bobol yn mynd yn flin pan mae eu partneriaid y tu ôl i’r olwyn, yn ôl pôl piniwn newydd.

Yn ôl yr arolwg gan Kiwk Fit mae’r modd y mae eu partneriaid yn ymddwyn wrth y llyw yn mynd dan groen 80% o bobol.

Roedd 15% o’r 2,000 a holwyd yn anhapus â’r ffordd yr oedd eu partneriaid yn gyrru’r car.

Y cwyn mwyaf gan ferched oedd diffyg amynedd eu partneriaid wrth ymdrin â gyrwyr eraill – roedd 21% yn dweud fod hynny’n boen.

Dim ond 7% o ddynion oedd yn meddwl fod eu partneriaid nhw yn trin gyrwyr eraill mewn modd anghwrtais.

Roedd 15% o ferched yn meddwl bod eu partneriaid yn gyrru’n rhy gyflym, a 14% yn dweud eu bod nhw’n gyrru’n rhy agos i’r car o’u blaenau nhw.

Roedd 6% o ddynion yn meddwl bod eu partneriaid nhw yn gyrru’n rhy gyflym, a 8% yn anhapus bod eu partneriaid yn gyrru’r rhy agos i geir eraill.

Diffyg sgiliau darllen map oedd yn mynd dan groen y dynion. Roedd 14% ohonyn nhw yn feirniadol o hynny o’i gymharu â 6% o fenywod.

Yn ôl 7% o ddynion roedd eu partneriaid yn gyrru’r rhy araf.

“Rydyn ni’n awgrymu fod dynion yn gwrando ar eu partneriaid,” meddai prif weithredwr Kwik Fit, Ian Fraser.

“Mae nifer uchel o fenywod yn dweud fod eu partneriaid yn gyrru’n rhy gyflym, yn ddiamynedd ac yn gyrru’r rhy agos at gefnau ceir eraill.

“Fe ddylen nhw wrando ar y cyngor hwnnw a chymryd rhagor o ofal ar y ffyrdd.”