Moussa Koussa
 Mae’r heddlu yn yr Alban sy’n ymchwilio i fomio Lockerbie wedi cyfweld cyn-Weinidog Tramor Libya, Moussa Koussa. 

 Roedd Moussa Koussa wedi teithio i Brydain yr wythnos ddiwethaf ar ôl dianc o’r ymladd yn Libya. 

 Mae’r awdurdodau yn credu bod ganddo wybodaeth allweddol am y drychineb yn Lockerbie a laddodd 270 o bobl yn 1988, gan ei fod yn un o swyddogion cudd Llywodraeth Libya ar y pryd.

 Bellach mae Moussa Koussa wedi troi yn erbyn y Cyrnol Gaddafi, sydd wedi rheoli Libya ers 1969. 

Mae Swyddfa Erlyn y Goron wedi cadarnhau eu bod wedi holi Moussa Koussa am achos Lockerbie.

Ond mae nhw’n gwrthod datgelu unrhyw fanylion pellach er mwyn “diogelu cywirdeb yr ymchwiliad”.

 Fe gafodd yr unig berson i gael ei ganfod yn euog o’r bomio, Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi, ei garcharu yn 2001, a’i ryddhau wedyn yn 2009.

Cafodd ddychwelyd i Libya ar ôl i feddygon ddweud ei fod yn ddifrifol wael ac yn debygol o farw ymhen tri mis. Mae’n parhau yn fyw.

Yn ogystal ag ateb cwestiynau am y bomio yn Lockerbie, mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Yvette Cooper, wedi dweud y dylai Moussa Koussa gael ei holi ynglŷn â’r blismones Yvonne Fletcher a gafodd ei saethu yn ystod protest tu allan i lysgenhadaeth Libya yn Llundain yn 1984. 

 Mae Moussa Koussa hefyd wedi cael ei gyhuddo o helpu i arfogi’r IRA yn Iwerddon, ac mae disgwyl i’r heddlu ei holi am hynny hefyd.