Ed Balls
Mae Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi rhybuddio bod heddiw’n “Ddydd Mercher Du” i Brydain wrth i newidiadau Cyllideb argyfwng Llywodraeth San Steffan ddod i rym.

Ond mae’r Canghellor George Osborne wedi mynnu y bydd y mwyafrif o gartrefi Prydain yn elwa ar y newidiadau a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf.

‘Pedwar o bob pump yn elwa’

Mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi ffigyrau sy’n awgrymu y bydd 80% o gartrefi Prydain yn elwa o’r newidiadau sy’n dod i rym heddiw.

Mae’r elusen ariannol Credit Auction yn dweud y bydd pob cartref ym Mhrydain yn colli £200 ar gyfartaledd o ganlyniad i’r newidiadau.

Ond dywedodd y Trysorlys mai pobol sydd yn ennill cyflogau mawr fydd ar eu colled, tra bydd pobol sy’n ennill llai yn elwa.

Serch hynny dywedodd Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, y byddai newidiadau yn taro plant a merched yn galed.

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi ffigyrau sy’n awgrymu y byddai dyna a dynes sydd â thri o blant, a’r ddau yn ennill £26,000, yn colli £1,700 y flwyddyn o ganlyniad i’r newidiadau.

‘Taro merched’

“Mae heddiw yn Ddydd Mercher Du i filiynau o deuluoedd ledled Prydain,” meddai Ed Balls.

“Addawodd David Cameron y byddai’n arwain y llywodraeth fwyaf cyfeillgar tuag at deuluoedd erioed a dywedodd George Osborne fod pawb yn yr un cwch.

“Pam felly bod y newidiadau i drethi a budd-daliadau sy’n dod i rym heddiw yn taro merched yn galetach na dynion?”