Mae cyn bennaeth newyddion a prif ohebydd cyfredol papur newydd The News of the World wedi eu harestio ar amheuaeth o hacio ffonau, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Ian Edmondson, 42, a Neville Thurlbeck, 50, eu dal gan heddlu Scotland Yard ar ôl mynd i gyfarfodydd ar wahân mewn gorsafoedd yr heddlu yn ne-orllewin Llundain y bore ma.

Mae’r ddau wedi eu holi ar amheuaeth o geisio gwrando ar negeseuon ffôn yn anghyfreithlon.

Dyma’r arestiadau cyntaf ers i Heddlu’r Met ailagor yr ymchwiliad i honiadau fod gweithwyr y papur newydd wedi hacio ffonau enwogion, gwleidyddion ac aelodau o’r Teulu Brenhinol.