John Sweeney
Mae llofrudd wedi cael gwybod y bydd yn marw yn y carchar ar ôl i lys ei gael yn euog o rwygo dwy ddynes yn ddarnau a gollwng eu cyrff mewn camlesi.

Dedfrydwyd John Sweeney, 54, i oes yn y carchar yn yr Old Bailey am lofruddio ei gyn-gariadon Paula Fields a Melissa Halstead.

Daethpwyd o hyd i’w cyrff degawd ar wahân yn Lloegr a’r Iseldiroedd ac mae’r heddlu yn ofni bod rhagor o wragedd wedi dioddef yr un ffawd.

Ymffrostiodd John Sweeney yn y trais mewn lluniau erchyll a barddoniaeth. Roedd o wedi arwyddo un llun o’i hun yn dal bwyell waedlyd gan ddweud mai ef oedd y ‘Scalp Hunter’.

Gwrthododd John Sweeney adael ei gell yng Ngharchar Belmarsh er mwyn mynd i’r llys i dderbyn ei ddedfryd.

Dywedodd yr Ustus Saunders mai dim ond carchar am oes fyddai’n gwneud y tro iddo.

“Roedd y troseddau yma yn rai drygionus ac erchyll,” meddai. “Cafodd pennau’r dioddefwyr eu torri i ffwrdd, ac mae’n amhosib gwybod i sicrwydd sut y cafodd y merched eu lladd.

“Mae’r ffaith nad ydi rhai o ddarnau cyrff y dioddefwr wedi dod i’r amlwg wedi ychwanegu at boen meddwl y teuluoedd.”

Roedd John Sweeney eisoes yn y ddalfa er 2002 am geisio lladd ei cyn-gariad Delia Balmer yn 2004 a meddu ar bedwar gwn pan gafodd ei arestio wrth ffoi.