Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi addo mynd i’r afael â phryderon am ddiwygiadau dadleuol Llywodraeth San Steffan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rhai Aelodau Seneddol wedi bod yn galw am “newidiadau sylweddol” i’r cynlluniau.

Mae Pwyllgor Iechyd trawsbleidiol Tŷ’r Cyffredin wedi annog y llywodraeth i ailfeddwl y cynigion, a dywedodd y cyn ysgrifennydd iechyd Ceidwadol Stephen Dorrell fod angen mwy na “mân dwtio” ar y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Pwysleisiodd y pwyllgor nad oedd yn cytuno mai swyddogaeth meddygon teulu oedd comisiynu gwasanaethau ar gyfer cleifion.

Fodd bynnag, dywedodd Nick Clegg ei fod yn credu nad oedd yn “syniad dadleuol” rhoi rhagor o gyfrifoldeb iddyn nhw.

“Mae’n syniad da eu bod nhw’n gwneud y penderfyniadau, yn hytrach na swyddogion anatebol sy’n symud arian o un ochr i’r ddesg i’r llall,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Ond fe fyddwn ni’n ystyried ar y pryderon hyn, a diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn adlewyrchu hynny.”

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw’n bwriadu gwrando ar y pryderon “dilys”, ac y gallai’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth fod yn “sylweddol”.

“Nid yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn eiddo i’r Llywodraeth. Rydyn ni eisiau i bobl deimlo’n gyfforddus â’r newidiadau, a fydd yn cryfhau, yn hytrach na gwahanu, y Gwasanaeth Iechyd.”

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Andrew Lansley, wedi cyfaddef fod “bryderon gwirioneddol” am y cynlluniau a chyflymder y newidiadau.

Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn cymryd y cyfle i “bwyllo a gwrando” ar y pryderon a chyflwyno unrhyw welliannau sydd eu hangen.

Mynnodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, fod y diwygiadau iechyd “yn hynod o beryglus”, ac mae undebau yn gwrthwynebu ceisio hyrwyddo mwy o gystadleuaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chwmnïau preifat.