Sian O'Callaghan
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Sian O’Callaghan yn dweud eu bod nhw wedi adnabod y corff arall sydd yn gysylltiedig â’r achos.

Dywedodd Heddlu Wiltshire eu bod nhw wedi bod yn edrych drwy’r gronfa ddata DNA er mwyn cael gwybod corff pwy oedd wedi ei gladdu yn Eastleach, Swydd Gaerloyw.

Maen nhw bellach yn ceisio cysylltu â theulu’r dioddefwr ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi ei henw ryw ben yfory.

“Ar hyn o bryd rydyn ni’n ceisio cysylltu â’r perthnasau agosaf a dw i’n siŵr eich bod chi’n deall nad ydyn ni eisiau dweud corff pwy yw hwn eto,” meddai llefarydd.

Mae’r wasg leol wedi dyfalu mai mewnfudwr ifanc o dras Fietnamaidd yw’r ail gorff. Fe aeth Hai Nguyen, 20, ar goll o’i chartref yn Swindon ym mis Gorffennaf 2005.

Mae gwaith wedi bod yn digwydd yn Baxter’s Farm, tua 17 milltir o’r fan lle y daethpwyd o hyd i gorff Sian O’Callaghan.

Gosodwyd blodau a chroes bren gan swyddogion yn y fan, â’r neges: “I’r fenyw ddienw, nawr fe gewch chi orffwys mewn hedd.”