Mae’r heddlu yn meddwl eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff y myfyriwr o Landrindod, James Bubear, yng Nghaerfaddon.

Does dim cadarnhau swyddogol mai corff James Bubear ydi o eto.

Cafodd y corff ei weld yn y dŵr gan un o weithwyr Asiantaeth yr Amgylchedd, toc cyn 10am heddiw yn Twerton, Caerfaddon.

Mae’r myfyriwr ym Mhrifysgol Bath Spa, sy’n 19 oed, wedi bod ar goll ers noson allan gyda’i ffrindiau ar 13 Mawrth.

Mae dros 11,000 o bobol wedi ymuno ag ymgyrch ar Facebook er mwyn ceisio dod o hyd iddo.