Canolfan waith
Bydd ymgyrch y glymblaid i wthio  pobol oddi ar fudd-daliadau analluogrwydd  ac yn ôl i waith yn dechrau o ddifrif heddiw.

Mae gweinidogion wedi awgrymu y gallai hanner miliwn o bobol sydd wedi bod yn hawlio budd-daliadau ddechrau gweithio’n syth.

Maen nhw wedi anfon llythyrau at fwy na 1.6 miliwn o bobol sydd ar fudd-daliadau analluogrwydd yn dweud bod rhaid iddyn nhw gael eu hail-asesu.

Erbyn diwedd yr wythnos yma fe fydd y llywodraeth wedi cysylltu â’r 7,000 cyntaf, a bydd yr asesiadau cyntaf yn dechrau ddiwedd mis Mehefin.

Fe fydd hi’n cymryd tair blynedd i ail-asesu pawb.

Arbrawf

Penderfynodd gweinidogion fwrw ymlaen â’r cynllun ar ôl i arbrawf yn Burnley ac Aberdeen ddangos fod bron i draean o’r rheini oedd yn hawlio’r budd-dal yn ddigon da i weithio.

Roedd gan 38% arall y gallu i weithio o gael y gefnogaeth iawn.

Dim ond 30% o’r rheiny a gafodd eu hail-asesu oedd yn ddigon analluog i barhau i hawlio’r budd-dal yn hytrach na chwilio am waith.

“Mae canlyniadau’r arbrawf yn dangos y byddai tua hanner miliwn o bobol trwy’r wlad yn gallu ail-ddechrau gweithio dros y tair blynedd nesaf,” meddai’r gweinidog cyflogaeth, Chris Grayling, ym mhapur newydd y Daily Telegraph.

Gallai 600,000 arall ddod o hyd i waith “â’r gefnogaeth gywir,” meddai.

Dywedodd y Llywodraeth y bydd pobol sydd wir ddim yn gallu gweithio yn derbyn budd-dal uwch yn y dyfodol.